Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Plant sy'n Derbyn Gofal - Ymchwiliad y Pwyllgor yn y Dyfodol
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 and 18.3 ac am ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er bod y cyfrifoldebau hyn yn cael eu diffinio'n gul gall y Pwyllgor ystyried ystod eang o faterion o fewn y cylch gwaith hwn.
Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Blant sy'n Derbyn Gofal gan fod nifer o bryderon sylweddol mewn perthynas â gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau yn y maes hwn, ac felly rydym yn bwriadu bwrw golwg systemig ar y maes hwn.
Mae'r Pwyllgor wedi nodi pedwar maes cychwynnol y bydd yn eu hystyried yn ystod y Cynulliad hwn, a amlinellir isod.
1. Gwerth am arian o ran gwariant cyhoeddus ar blant sy'n derbyn gofal
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried:
§ Cost gyffredinol a gwerth am arian yr ystod o wasanaethau cyhoeddus â'r nod o wella canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal;
§ P'un a yw canlyniadau a ddymunir Llywodraeth Cymru ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu cyflwyno gan y lefelau presennol o wariant cyhoeddus;
§ P'un a yw graddau'r gwariant sy'n benodol i Blant sy'n Derbyn Gofal yn ddigon tryloyw ar draws yr ystod o wasanaethau cyhoeddus
§ P'un a yw cyrff cyhoeddus wedi gosod digon o bwyslais ar ddull gwariant ataliol hir dymor, yn unol âDeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i sicrhau y gwneir y gorau o wariant cyhoeddus ar gyfer y grŵp hwn o blant.
2. Cyrhaeddiad addysgol
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried:
Y trefniadau ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion i Blant sy'n Derbyn Gofal a gwerth am arian y grant hwnnw, a delir i gonsortia rhanbarthol ar gyfradd o £ 1,150 am bob plentyn sy'n derbyn gofal y cyfrifir eu bod yn byw yn eu hardal
3. Lleoliadau maeth
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried:
Gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer lleoliadau maeth.
4. Trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried:
Trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol
Byddem yn croesawu barn rhanddeiliaid ynghylch ai'r meysydd a nodwyd yw'r meysydd cywir ac a oes unrhyw feysydd ychwanegol a fyddai'n elwa o gael y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn eu hystyried yn yr hir dymor. Ymatebion i'w derbyn erbyn 12 Mai 2017.
Unwaith y bydd y Pwyllgor yn dechrau ymgymryd â'r gwaith hwn, byddwn yn cyhoeddi dogfennau ymgynghori ar gyfer pob cam o'r ymchwiliad.